Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2017
Amser:
08.30 -
09.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Estynnodd y Llywydd groeso i Julie James, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros fusnes y Llywodraeth, a mynegodd ei diolch ar ran y Pwyllgor Busnes i Jane Hutt am ei chyfraniad enfawr dros nifer o flynyddoedd fel Rheolwr Busnes ac Arweinydd y Tŷ.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
·
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf
o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 15 Tachwedd 2017 -
· Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19 (30 munud)
Dydd Mercher 29 Tachwedd 2017 -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Adolygiad o'r diwygiadau i'r Cyfarfod Llawn
Trafododd y Rheolwyr Busnes sut y mae diwygiadau diweddar i drafodion Cyfarfodydd Llawn yn gweithredu, a chytunodd i adolygu eu gweithrediad fel a ganlyn:
· Ailenwi 'Dadleuon gan Aelodau Unigol' yn 'Dadleuon gan Aelodau';
· Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - roedd Rheolwyr Busnes yn fodlon ar y cyfan ar y modd y mae Cynigion Deddfwriaethol Aelodau yn gweithredu, ond gofynnodd Julie James i'r Rheolwyr Busnes barhau i gadw golwg arnynt a dychwelyd at y mater yn y flwyddyn newydd;
· Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru - Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddod â chynigion gerbron sy'n caniatáu ar gyfer digwyddiad yn dilyn patrwm penodedig, gan barchu'r angen am bleidlais, ac sydd hefyd yn caniatáu i Aelodau'r meinciau cefn allu gwneud cyfraniad sylweddol;
· Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft - cyflwynir Rheolau Sefydlog Drafft i wneud y fformat a gafodd ei dreialu yn un parhaol.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor fod Huw Irranca-Davies wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Penderfyniad mwyafrif y Rheolwyr Busnes oedd y dylai cadeiryddiaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol barhau i gael ei dyrannu i'r Grŵp Llafur. Gwrthwynebodd Paul Davies y penderfyniad, gan nodi'r anghydbwysedd parhaus yn y modd y mae'r Cadeiryddion wedi'u dyrannu ymhlith grwpiau'r pleidiau. Gwahoddir enwebiadau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, gyda balot yn digwydd rhwng 2 a 5pm os oes angen. Byddai'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi cyn y cyfnod pleidleisio.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddychwelyd i fod yn bwyllgor o bedwar Aelod wedi i Dafydd Elis-Thomas ymddiswyddo o'r pwyllgor.
Trefn y seddi yn y Siambr
Bydd cynllun seddi diwygiedig yn cael ei ddosbarthu cyn y Cyfarfod Llawn heddiw.
Cyfarfod Llawn heddiw - roedd y Llywydd eisoes wedi cyhoeddi bod Cyfarfod Llawn heddiw wedi'i ganslo.
Cyfarfod Llawn yfory - cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid canslo'r Cyfarfod Llawn yfory hefyd.
Pwyllgorau yr wythnos hon - cytunodd y Rheolwyr Busnes mai Cadeiryddion sy'n gyfrifol am eu pwyllgorau, ond y byddai'r Pwyllgor Busnes yn eu cynghori i beidio â chwrdd yr wythnos hon. Nododd y Rheolwyr Busnes fod rhai cadeiryddion eisoes wedi nodi y byddent yn canslo eu cyfarfodydd.
Y Swyddfa Gyflwyno - cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn parhau ar agor at ddibenion cyflwyno a gosod busnes ar gyfer yr wythnos nesaf.
Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf - cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd busnes yn ailddechrau'r wythnos nesaf. Bydd Cwestiynau Llafar y Cynulliad a drefnwyd ar gyfer heddiw ac yfory yn cael eu gofyn yng Nghyfarfodydd Llawn yr wythnos nesaf, ac amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad yn cael ei diwygio yn unol â hynny. Dywedodd Arweinydd y Tŷ wrth y Pwyllgor y byddai'r llywodraeth yn dymuno symud ei busnes o'r wythnos hon i'r nesaf, gan gadw rhai eitemau hanfodol o fusnes a drefnwyd ar gyfer yr wythnos nesaf. Byddai dadl Cyfnod 3 ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol yn cael ei gohirio. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i fabwysiadu agwedd debyg tuag at fusnes y Cynulliad, a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu agenda ddiwygiedig i'w chadarnhau.
Aildrefnu busnes - byddai'r Pwyllgor yn ystyried aildrefnu busnes dros y tymor canolig yn ei gyfarfod ddydd Mawrth. </AI12><TRAILER_SECTION></TRAILER_SECTION><LAYOUT_SECTION>